Arweinydd Tîm Mynediad
More details
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Arweinydd Tîm Mynediad
Llawn amser 37 awr yr wythnos – Parhaol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn chwilio am Arweinydd Tîm Mynediad ymroddedig ac angerddol i helpu i ddatgloi buddiannau cymdeithasol, economaidd ac iechyd ein rhwydwaith helaeth o lwybrau, llwybrau ceffyl a thir mynediad. Os ydych yn gyffrous am botensial yr hawliau tramwy cyhoeddus i fynd i'r afael â rhai o'r heriau allweddol sy'n wynebu Sir Benfro a Chymru, yna rydym am glywed gennych.
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn un o ardaloedd gwarchodedig mwyaf eiconig Prydain, yn gartref i 186 milltir o arfordir godidog a chynefinoedd amrywiol, gyda rhai o'r golygfeydd mwyaf ysblennydd ym Mhrydain. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, y rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus cofrestredig a’r tir mynediad dynodedig yn gyfleoedd i fwynhau rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.
Fel yr Arweinydd Tîm Mynediad, byddwch yn rheoli’r gwaith o gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus. Byddwch yn rhoi arweiniad ar safonau cynnal a chadw ar gyfer rheoli arwyneb, seilwaith a llystyfiant, ac yn trefnu arolygon ac archwiliadau bob hyn a hyn o gyflwr y rhwydwaith. Hefyd byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr, yn fewnol ac yn allanol (megis y Fforwm Mynediad Lleol) i fanteisio i’r eithaf ar effaith mynediad i'r Parc Cenedlaethol ar lesiant.
Byddwch yn gyfrifol am reoli'r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus a'r Swyddog Llwybrau Cenedlaethol yn ogystal â rheoli cyllidebau a’r rhaglenni gwella mynediad cysylltiedig. Mae ymgysylltu yn allweddol i lwyddiant y swydd hon, felly, yn ogystal â rhoi cyngor a pharatoi polisïau a chynlluniau perthnasol, byddwch yn sicrhau bod mynediad i'r Parc Cenedlaethol yn parhau i esblygu i ddiwallu’r heriau cyfoes yn ogystal ag anghenion newidiol y defnyddwyr drwy ymgynghori a chynnal arolygon yn rheolaidd.
Felly, bydd gennych gefndir cryf mewn rheoli perfformiad, gan arwain ein gwaith ar fonitro perfformiad ac adrodd ar effeithiau mynediad i'r Parc Cenedlaethol yn ogystal ag ymateb i ymgynghoriadau statudol ac anstatudol.
Mae angen arbenigedd technegol perthnasol ar gyfer y swydd hon gan y byddwch yn ymgymryd â gweithdrefnau cyfreithiol sy'n effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus i addasu a diogelu'r rhwydwaith, gan gynnwys dargyfeirio a chreu llwybrau cyhoeddus, cau llwybrau dros dro, a chymryd camau gorfodi.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol:
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol.
• Gwybodaeth ymarferol fanwl a phrofiad o fynediad i gefn gwlad, cyfraith a rheolaeth hawliau tramwy cyhoeddus.
• Sgiliau cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar) a rhyngbersonol effeithiol, a phrofiad o baratoi adroddiadau a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid o fewn a thu allan i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol.
• Sgiliau trefnu rhagorol a phrofiad profedig o gynllunio, blaenoriaethu a gweithio i derfynau amser a thargedau, ac o fewn y gyllideb.
• Profiad o fod yn rheolwr llinell.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael i'w lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £41,511- £44,711 y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau: 27/07/2025
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.