Cynorthwyydd Cynllunio / Swyddog Cynllunio
Cymru
Ymunwch â Ni i Lywio Dyfodol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cynorthwyydd Cynllunio / Swyddog Cynllunio (2 swydd ar gael) Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro | Llawn amser | ?? Cyflog: Graddfa 5 - £29,572 - £31,067.
Ydych chi'n barod i wneud argraff ystyrlon yn un o dirweddau gwarchodedig mwyaf trawiadol gwledydd Prydain? P'un a ydych newydd ddechrau yn y maes cynllunio neu'n edrych i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa, dyma'ch cyfle i helpu i lywio datblygiad cynaliadwy mewn amgylchedd gwarchodedig a drysorir.
Beth Fyddwch yn ei Wneud
Yn dibynnu ar eich profiad, byddwch:
• Yn rheoli llwyth achosion o geisiadau cynllunio, yn amrywio o geisiadau gan berchnogion tai i ddatblygiadau bach, datblygiadau amaethyddol, ac apeliadau cysylltiedig.
• Yn rhoi cyngor clir a diduedd i ymgeiswyr ac i'r cyhoedd.
• Yn hyrwyddo egwyddorion cynaliadwy ar draws y Parc Cenedlaethol.
• Yn hyrwyddo rhagoriaeth mewn dylunio.
Am bwy ydym yn Chwilio
Byddwch yn dod â naill ai:
• Cymhwyster mewn cynllunio neu bwnc cysylltiedig (lefel HND neu radd), neu
• Brofiad o weithio mewn adran gynllunio (sector cyhoeddus neu breifat).
Hefyd, bydd gennych:
• Sgiliau cadarn mewn cyfathrebu ysgrifenedig a llafar.
• Ymagwedd rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
• Y gallu i ddehongli cynlluniau a chymhwyso polisi â barn gadarn.
• Medrusrwydd mewn technoleg gwybodaeth a GIS.
• Trwydded yrru lawn.
Mae aelodaeth o RTPI (neu weithio tuag at aelodaeth) yn fantais fawr.
Pam Ymuno â Ni?
Yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, nid dim ond diogelu tirweddau a wneir gennym - rydym yn rhan o adeiladu cymunedau, cefnogi twf cynaliadwy, a meithrin arloesedd mewn cynllunio. Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar, blaengar sy'n rhoi gwerth ar gydweithio, uniondeb, ac ar gymeriad unigryw ein hamgylchedd arfordirol.
Croesewir ceisiadau o bob cefndir ac rydym yn ymrwymedig i gyfle cyfartal. Byddai sgiliau yn y Gymraeg yn fantais wirioneddol, ac rydym yn cefnogi’r staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Yn barod i helpu i lywio dyfodol un o ranbarthau mwyaf eiconig Cymru? Gwnewch gais yn awr a dewch â'ch angerdd dros faterion cynllunio i Barc Arfordir Penfro.
Dyddiad Cau: 19/10/2025
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cadw’r hawl i gau’r swydd yn gynnar.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Nid y swydd iawn i chi? Sicrhewch eich bod yn gwirio ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli difyr ac amrywiol ar draws y parc.